Glaw trwm yn ystod mis Ebrill eleni sy’n cael y bai wrth i lai o siopwyr droi allan i gefnogi siopau canol trefi gwledydd Prydain. Dyma’r flwyddyn waethaf ers 2009, yn ôl adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi yr wythnos hon.

Dim ond yng Nghymru y bu cynnydd yn nifer y siopwyr – hyd yn oed os mai dim ond 0.6% o gynnydd oedd hwnnw.

Roedd 12.6% o ostyngiad wedi bod yn nifer y bobol fu’n prynu mewn siopau bychain yng nghanol trefi yr Alban, o’i gymharu ag Ebrill 2011, yn ôl arolwg gan gwmni Springboard. Dim ond 2% yn llai o bobol oedd wedi bod yn siopa mewn canolfannau mawr y tu allan i’r trefi.

“Mae hyder siopwyr yn isel, ac mae’r arian sydd gan bobol dros ben yn isel iawn,” meddai Stephen Robertson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Consortiwm Gwerthu Prydeinig. “Dydi pobol ddim yn prynu dim byd sydd ddim yn angenrheidiol.

“Mae’r ffaith fod chwyddiant ar ei ffordd i lawr yn dod â phrisiau yn agosach at gyflogau pobol, ond mae cynnydd ymhell iawn i ffwrdd ar hyn o bryd.”