Roger Wilyman
Mae Heddlu’r Gogledd wedi gwneud apêl i ddyn aeth ar goll bedwar diwrnod yn ôl i gysylltu gyda’i deulu.
Bu’r gwasanaethau brys yn chwilio am Roger Wilyman, 61, a gafodd ei weld y tro olaf yn gadael bwyty Rhos Fynach yn Llandrillo yn Rhos tua 8.15pm nos Wener, 18 Mai.
Roedd ei deulu wedi cysylltu â’r heddlu yn hwyr nos Wener pan fethodd a dychwelyd adref. Cafwyd hyd i’w gar yn ddiweddarach ym Mae Trearddur ar Ynys Môn.
Roedd yr heddlu wedi ymuno â chriwiau’r bad achub, gwylwyr y glannau, hofrenyddion a chŵn i chwilio’r ardal ond ni chafwyd hyd iddo.
Mae gan Roger Wilyman wallt brown wedi britho ac roedd yn gwisgo crys glas, trowsus glas tywyll, siaced werdd/brown ac esgidiau brown.
Mae ei deulu yn apelio arno i gysylltu â nhw i adael iddyn nhw wybod ei fod yn ddiogel ac mae’r heddlu’n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld Roger Wilyman i’w ffonio ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.