Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud heddiw y bydd newidiadau i’r modd y mae Aelodau’r Cynulliad yn cael eu hethol, ond mae Carwyn Jones wedi ei rhybuddio am beidio ymyrryd yn system etholiadol Cymru.
Y prynhawn yma mae Carwyn Jones wedi dweud nad oes mandad gan Cheryl Gillan i wneud newidiadau.
“Mae system etholiadol y Cynulliad yn fater i bobol Cymru ac i neb arall,” rhybuddiodd Carwyn Jones.
“Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi ei sicrwydd i fi na fydd newid i drefniadau etholiadol heb gydsyniad y Cynulliad.”
Mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud mai “Cynulliad Cymru nid Llywodraeth Prydain ddylai arwain y ddadl ar etholiadau i’r Cynulliad.”
Lansio Papur Gwyrdd
Wrth lansio ymgynghoriad Swyddfa Cymru ar ddiwygio’r etholaethau, dywed Cheryl Gillan y bydd newidiadau gan fod yr etholaethau’n “anwastad” o ran niferoedd.
“Mae’n bolisi gan y Llywodraeth Glymblaid i gael mwy o gydbwysedd o ran maint yr etholaethau a byddwn ni’n gofyn i’r Comisiwn Etholiadol i adlewyrchu hynny hyd yn oed os byddwn ni’n glynu gyda 40 etholaeth yng Nghymru,” meddai Cheryl Gillan.
Mae nifer y seddi Cymreig yn San Steffan yn mynd i ostwng o 40 i 30 ac mae Papur Gwyrdd Cheryl Gillan yn cynnig newid yr etholaethau yng Nghymru ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hefyd.
Dywedodd Cheryl Gillan mai’r “ateb mwyaf syml a thrwsiadus” yw ethol 30 trwy system y cyntaf i’r felin, a 30 trwy system gynrychiolaeth gyfrannol.
“Dwi ddim am dderbyn system sydd ddim yn gyfrannol,” meddai Cheryl Gillan, gan gyfeirio mae’n debyg at ddymuniad y Blaid Lafur i gael 30 o etholaethau dwysedd a’r cyfan yn cael eu hethol trwy’r cyntaf i’r felin.
Dywedodd Cheryl Gillan ei bod hi am ail-edrych ar reol a gyflwynodd y Blaid Lafur ar gyfer ymgeiswyr y Cynulliad, sef nad oes hawl sefyll ar restr ranbarthol ac mewn etholaeth ar yr un pryd.
Ychwanegodd ei bod hi am ail-edrych ar y drefn sy’n caniatáu i aelodau Cynulliad eistedd hefyd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
‘Cynulliad Cymru nid Llywodraeth Prydain ddylai arwain y ddadl’
Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion cyfansoddiadol wedi dweud mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a ddylai arwain y trafodaethau ar newid etholiadau Cymru.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC fod Plaid Cymru yn cefnogi pleidlais gyfran STV ar gyfer ethol aelodau’r Cynulliad. Yn ôl y drefn yna byddai pleidleiswyr yn nodi yn nhrefn blaenoriaeth pa ymgeiswyr y maen nhw’n pleidleisio drostyn nhw.
“Dyna’r ffordd fwyaf teg o gadw’r cyswllt gyda’r etholaeth a gwneud yn siŵr fod llai o bleidleisiau’n cael eu gwastraffu,” meddai Ieuan Wyn Jones.
Dems Rhydd yn croesawu pleidlais gyfran
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi’n croesawu’r elfen gyfrannol yng nghynigion Llywodraeth San Steffan.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dadlau ers amser hir o blaid system sy’n hollol gyfrannol,” meddai Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed.
“Mae’n rhaid i fuddiannau pobol Cymru fod yn ganolog i unrhyw newidiau i’r system bleidleisio a bydd ein hymateb i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu hynny.”