Mae economi’r DU wedi cael hwb mawr heddiw ar ôl  i General Motors gyhoeddi buddsoddiad o £125 miliwn yn ffatri ceir Vauxhall yn Ellesmere Port ar Lannau Mersi.

Fe fydd yn creu 700 o swyddi newydd yn y ffatri sy’n cyflogi nifer o weithwyr o Ogledd Ddwyrain Cymru.

Mae disgwyl i General Motors gyhoeddi y bydd yr Astra newydd yn cael ei adeiladu yn y ffatri gan ddiogelu dyfodol y ffatri am rai blynyddoedd.

Roedd na bryder yn gynharach eleni na fyddai’r cwmni yn buddsoddi yn y ffatri gan olygu nifer o diswyddiadau.