Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd i geisio gwella safonau ysgrifennu a darllen yn ysgolion Cymru.

Fe fydd  Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, yn dadlau y bydd y mesurau newydd yn sicrhau “mwy o gysondeb ac eglurder yn ein ffordd o dracio cynnydd ysgolion.”

Ond mae undebau eisoes yn dadlau y bydd y system newydd yn ychwanegu at waith athrawon.

Bydd y Rhaglen Llythrennedd Cenedlaethol yn cynnwys mesurau i gynorthwyo a chefnogi athrawon ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm.

Fe fydd disgwyl i ysgolion gyflwyno adroddiad blynyddol am gynnydd disgyblion a bydd profion darllen Cymraeg a Saesneg ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 i 9 bob mis Mai.

Mae’r fframwaith yn rhan o gynllun Leighton Andrews i wella safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru sydd ymhlith y gwaethaf yn y DU.

Dywedodd Leighton Andrews: “Does dim byd yn bwysicach na sicrhau bod ein pobol ifanc â’r sgiliau i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu.”

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y corff sy’n arolygu ysgolion yng Nghymru, Estyn, nad yw ysgolion uwchradd Cymru yn cynllunio digon er mwyn dysgu sgiliau sylfaenol megis rhifedd a chyfathrebu, gyda thua 40% o ddisgyblion yn cyrraedd yr ysgol uwchradd ac yn methu â darllen cystal ag y dylen nhw.

Yn ôl arolygwyr Estyn mae ysgolion yn rhoi blaenoriaeth ar ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn esgeuluso dysgu sgiliau sydd ddim yn cael eu hasesu mewn modd uniongyrchol.

‘Monitro’n drwyadl’

Dywedodd llefarydd addysg y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Angela Burns AC eu bod yn croesawu cynllun LLywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r “diffygion mewn safonau llythrennedd ond bod yn rhaid i’r strategaeth ennill hyder  athrawon, rheini a llywodraethwyr ysgolion os am lwyddo.”

“Fe fydd yn rhaid i’r cynllun yma gael ei fonitro’n drwyadl er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu darllen nac ysgrifennu.”

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i’r Gweinidog Addysg ryddhau athrawon o’r gwaith papur diangen fel bod ganddyn nhw’r amser a’r rhyddid i ddysgu ein plant i’r safonau gorau posib.”