Keith Davies
Mae Aelod Cynulliad Llanelli wedi dweud yn y Senedd ei fod yn “ymddiheuro am y cywilydd cyhoeddus” a ddilynodd digwyddiad mewn gwesty pum seren ym Mae Caerdydd.

Prynhawn yma roedd Mick Antoniw, Aelod Pontypridd, yn cynnig fod y Cynulliad yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau i ymddygiad Keith Davies ac yn “cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.”

Cafodd y cynnig ei basio heb wrthwynebiad.

‘Fyny i’r Blaid Lafur sut i ymateb’

Dywedodd Keith Davies ei fod yn dymuno ymddiheuro i’w gyd-aelodau Cynulliad, i’w etholwyr, i staff y Cynulliad ac “yn arbennig” i’w deulu am y “cywilydd cyhoeddus” a achosodd yn lleol ac yn genedlaethol.

Roedd yn aros yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd ar gost y Cynulliad ac fe gwynodd rhai o’r gwesteion eraill am ei ymddygiad ef a dynes a oedd wedi dychwelyd gydag ef er mwyn “mwynhau rhagor o ddiod.”

Heddiw, diolchodd Simon Thomas, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Pwyllgor Safonau am yr adroddiad a dywedodd nad gwaith pleserus yw eistedd ar bwyllgor o’r fath o’i brofiad ef yn San Steffan.

Dywedodd Simon Thomas ei bod hi “fyny i’r Blaid Lafur nawr” o ran ymateb i’r adroddiad a cherydd y Cynulliad.