Jill Evans ASE
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, yn galw am gymryd camau ar frys er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth Twrci i atal achosion o gam-drin hawliau dynol a sicrhau ymreolaeth ddemocrataidd ar gyfer y bobl Cwrdaidd.

Bydd Jill Evans yn cyflwyno adroddiad heddiw am ei hymweliad diweddar i Dwrci gyda Dirprwyaeth Seneddol.

Dywedodd yr ASE: “Fel aelodau o’r Senedd gallwn siarad yn rhydd, yn ein hieithoedd ein hunain, ynglŷn â’n hunaniaeth, am ein credoau a’n dyheadau. Mae hi bron yn annirnadwy i ni y gellir carcharu aelodau seneddol am wneud hynny. Ond dyna’n union beth sy’n digwydd yn Nhwrci.

“Golyga gwelliannau i’r Gyfraith Gwrth-derfysgol a’r Cod Troseddol y caiff unrhyw areithiau ynglŷn â hunaniaeth Cwrdaidd eu hystyried i fod yn drosedd o ‘gefnogi terfysgaeth’.

“Yn ôl y Blaid dros Heddwch a Democratiaeth (BDP)  mae dros 7,000 o’u haelodau gan gynnwys chwe aelod seneddol, 16 maer a channoedd o gynghorwyr dinesig wedi cael eu harestio am y ‘drosedd’ hon. Mae’r bobl Cwrdaidd, y diwylliant Cwrdaidd a’r iaith Gwrdiaid yn cael eu gorthrymu gan yr awdurdodau Twrcaidd ac mae hyn yn hollol annerbyniol.”

Mamiaith

Dywedodd Jill Evans ei bod wedi galw am gydnabyddiaeth i’r Cwrdiaid yng nghyfansoddiad newydd Twrci, yn Senedd Ewrop, ac wedi cefnogi eu hawl i dderbyn addysg yn eu mamiaith, gan gondemnio’r arestio a’r camau eraill mae’r llywodraeth wedi cymryd yn erbyn gohebwyr ac eraill sydd wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r cwestiwn Cwrdaidd.

“Mae gan y bobl Cwrdaidd yr hawl i gael rhyddid i fynegi barn ac i gymdeithasu a rhaid parchu hwnnw, yn enwedig gan wlad sy’n dymuno ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd.

“Gobeithiaf bydd ein hadroddiad yn helpu i godi ymwybyddiaeth, creu mwy o undod ac yn fwy na dim hybu camau gwleidyddol i atal camdriniaeth bellach o hawliau dynol a sicrhau ymreolaeth ddemocrataidd ar gyfer y bobl Cwrdaidd.”