Mick Antoniw
Mae’r Senedd am drafod heddiw a ddylid caniatáu i Fil Aelod Preifat ar glefyd asbestos fynd rhagddo.

Mae Aelod Cynulliad Pontypridd Mick Antoniw, yn cynnig y dylai Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru gael ei ddigolledu am ofalu am gleifion sy’n dioddef o glefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos.

Dywed Mick Antoniw fod y “gost o drin clefyd asbestos yn rhoi straen ariannol anferthol ar y GIG yng Nghymru, sydd eisoes o dan bwysau mawr.”

“Os bu cyflogwr yn esgeulus a phan fo iawndal sifil yn ddyledus, credaf y dylid ad-dalu GIG Cymru am gost y driniaeth feddygol.”

“Fel bom yn tician”

“Mesothelioma yw’r tiwmor sy’n arwydd clir, bron bob amser, fod y sawl sy’n diodde’ wedi bod yn gysylltiedig ag asbestos,” meddai Mick Antoniw.

“Rydyn ni’n gwybod fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i mesothelioma wedi codi’n eitha’ cyson ers 1968. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n cymryd rhwng 10 a 50 mlynedd weithiau i diwmor ddatblygu.

“Ond, a bod yn hollol blaen, mae’r mater hwn fel bom yn tician, ac mae disgwyl iddi ffrwydro o fewn y blynyddoedd nesa’.”

Clefydau asbestos yng Nghymru

Yng Nghymru yn 2009, fe fu farw 102 o bobol o ganlyniad i diwmor mesothelioma. 100 oedd y nifer ar gyfer 2007, a 93 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yn 2008.

Bu nifer uchaf yr achosion yng Nghaerdydd (122 o farwolaethau rhwng 2001 a 2005); yna Abertawe (94 o farwolaethau); 67 ym Mro Morgannwg; 59 yn Wrecsam; 57 yn Sir Gaerfyrddin; a 56 yn Sir y Fflint.

“Am wastraff bywyd,” meddai Mick Antoniw.

“Rydyn ni’n gweld bywydau llawer gormod o wŷr a gwragedd sydd wedi gweithio’n galed ar hyd eu hoes, yn cael eu dinistrio gan yr afiechyd hwn. Mae’n hollol anghywir.”

Pwy sy’n dioddef?

O blith y gweithwyr gwrywaidd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan asbestiosis, mae seiri coed, trydanwyr, plymars a pheintwyr ac addurnwyr.

Dywed Mick Antoniw fod nifer cynyddol o athrawon yn dioddef hefyd gan fod asbestos wedi cael ei ddefnyddio wrth adeiladu ysgolion.