Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae mam babi a fu farw ar ôl cael niwed parhaol i’w ymennydd ar ôl cael ei eni wedi bod disgrifio ei sioc a’i thristwch yn y cwest i’w farwolaeth.
Bu farw Noah Tyler mwy na 10 mis ar ôl genedigaeth drawmatig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ym mis Chwefror 2011.
Roedd ei fam Colleen Tyler, a’i gŵr Hywel, sy’n dod o Gaerffili, yn y cwest yng Nghaerdydd heddiw. Mae Colleen Tyler yn disgwyl babi fis nesaf.
Mae’r ysbyty eisoes wedi ymddiheuro i’r cwpl ac mae’r fydwraig oedd ar ddyletswydd yn ystod yr enedigaeth bellach wedi gadael yr ysbyty.
Ond mae’r cwpl yn honni bod yr ysbyty wedi bod yn esgeulus ac maen nhw’n dwyn achos o esgeulustod.
“Yr hyn dwi’n ei gofio ydy clywed dim byd ar ôl i Noah gael ei eni, oherwydd roeddwn i’n disgwyl clywed sŵn crio,” meddai.
Cafodd ei mab ei gymryd i ffwrdd yn syth ar ôl cael ei eni wrth i feddygon geisio ei gadw’n fyw.
‘Sioc’
“Roeddwn i mewn sioc a doeddwn i methu credu bod hyn yn digwydd. Roeddwn i’n disgwyl bod yn gafael yn Noah erbyn hyn,” meddai.
Daeth meddyg i’w gweld nhw a dywedodd y gallan nhw weld Noah ond “nad oedd yn dda iawn o gwbl”.
Dywedodd Colleen Tyler: “Does dim byd a allai fod wedi fy mharatoi ar gyfer beth welais i. Roedd y peth bach ma yn gorwedd yn y crud cynnal gyda thiwbiau yn mynd mewn.
“Dydw i erioed wedi stopio ail-fyw’r enedigaeth,” meddai “ac rwy’n arteithio fy hun – beth petawn i wedi gallu gwneud rhywbeth yn wahanol i achub Noah.”
Clywodd y cwest bod ’na niwed parhaol i ymennydd Noah oherwydd diffyg gwaed ac ocsigen yn ystod yr enedigaeth.
Ar ôl cael triniaeth arbenigol yn yr ysbyty cafodd Noah ei symud i ysbyty arall, ond bu farw ar Ragfyr 23 y llynedd.
Mae disgwyl i’r cwest bara tan ddydd Iau.