Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyllid gwerth dros £5 miliwn yn cael ei roi gan y Llywodraeth i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae Leighton Andrews wedi cyhoeddi faint o grantiau y bydd pob awdurdod addysg yn ei gael er mwyn gwella a chynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan yr awdurdodau i roi hyfforddiant yn y Gymraeg i athrawon, i roi cymorth i’r rheini sydd wedi cwblhau’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ac i gefnogi gweithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu fas i’r ysgol.
Mae £200,000 ychwanegol ar gael eleni ar gyfer prosiectau a fydd yn gwella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd.
Dywedodd Leighton Andrews: “Rwyf wedi ymroi i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu a hynny drwy roi mynediad i addysg Gymraeg i bobl a hefyd drwy greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i gatiau’r ysgol.”
£8.6m ar addysg cyfrwng Cymraeg
Mae cyfanswm o £5.63 miliwn wedi’i glustnodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ym mlwyddyn ariannol 2012/13, ac mae disgwyl i’r swm gyrraedd £8.65m gyda chyfraniadau’r awdurdodau lleol hefyd.
Dyma sut y caiff yr arian ei ddyrannu:
£400,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn gwella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd ac yn cynyddu’r mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy ddefnyddio rhaglenni trochi hwyrddyfodiaid.
Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i ariannu 14 prosiect a gafodd eu sefydlu gan Fwrdd yr Iaith. Bydd hyd at £200,000 yn fwy yn cael ei glustnodi i sefydlu prosiectau newydd.
£200,000 ar gyfer Tîm Cymorth Cymraeg mewn Addysg CBAC.
£5.03 miliwn ar gyfer y Grantiau Cymraeg mewn Addysg i awdurdodau lleol. Mae’r grantiau yn amrywio o £99,586 i Gyngor Merthyr Tudful i £352,125 ar gyfer Rhondda Cynon Tâf.
Mae disgwyl i’r awdurdodau lleol wneud cyfraniad ychwanegol gwerth o leiaf 33% o’r grant maen nhw’n ei dderbyn gan y Llywodraeth. Mae disgwyl i gyfanswm y gwariant i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg fod yn £8,645,950 eleni.