Plaid Cymru sydd wedi cipio awennau Cyngor Ceredigion, gyda chefnogaeth gan gynghorwyr Annibynnol amrywiol ac un cynghorydd Llafur.
Y bore ’ma cafodd Ellen ap Gwynn o Blaid Cymru ei hethol yn Arweinydd newydd y cyngor – y cyntaf o’r blaid i arwain Cyngor Ceredigion.
Plaid Cymru yw’r grŵp mwyaf ar Gyngor Ceredigion gyda 19 cynghorydd ac maen nhw wedi ffurfio clymblaid gyda’r grŵp Annibynnol 12 aelod, y grŵp newydd Llais Annibynnol sydd â dau aelod, a’r unig gynghorydd Llafur yn y sir, Hag Harris o Lanbed.
“Dechreuad newydd i Geredigion”
Dywedodd Ellen ap Gwynn ei bod hi’n gwerthfawrogi cefnogaeth y siambr heddiw a bod y foment yn arwydd o “ddechreuad newydd” i’r sir.
“Rwy’n bwriadu bod yn arweinydd cynhwysol a byddwn ni’n gwneud yn siwr fod pobol Ceredigion yn teimlo’n rhan o benderfynaidau’r Cyngor” meddai.
Ychwanegodd ei bod hi’n falch o dderbyn cefnogaeth y cynghorwyr annibynnol amrywiol a’r cynghorydd Llafur, a’i bod hi’n bwriadu gweithio “ar draws y ffiniau pleidiol.”
Penderfynodd y saith Lib Dem ar y Cyngor i atal eu pleidlais ar yr arweinyddiaeth yn y cyfarfod yn Aberaeron y bore ‘ma.