Rhodri Talfan Davies
Roedd Cyfarwyddwr BBC Cymru yng Nghaergybi neithiwr i gynnig sicrwydd i weithwyr y Gorfforaeth yn y gogledd.

Yn dilyn amheuon am ddyfodol safleoedd y BBC ym Mangor a Wrecsam, fe ddywedodd Rhodri Talfan Davies wrth gyfarfod o Gyngor Cynulleidfa’r BBC yng Nghanolfan Gwelfor nad oes unrhyw le i boeni am ddyfodol y ddau le.

“Rwyf am bwysleisio ymrwymiad BBC Cymru i Gymru gyfan.  Fel y darlledwr cenedlaethol, mae BBC Cymru wedi ymroi i bortreadu, i adlewyrchu a dweud hanes y genedl yn y ddwy iaith – a hynny ar bob platfform.  Ni yw’r unig ddarlledwr sy’n gwneud hyn ac yn yr hinsawdd bresennol, mae ein rôl gwasanaeth cyhoeddus mor bwysig ag erioed.

 “Mae ein canolfannau ym Mangor a Wrecsam yn hanfodol wrth i’r BBC gynnig gwasanaeth i Gymru gyfan.  Ac yn groes i’r hyn y mae rhai wedi ei honni, ni fydd hyn yn newid. Felly rydw i’n dweud unwaith ac am byth – nad oes unrhyw gynlluniau i gau yr un o’r ddau safle yn y gogledd  – mae Bryn Meirion a’r stiwdios ym Mhrifysgol Glyndwr yn rhan graidd o’n gwasanaeth ni yng Ngogledd Cymru.  Mae’n wir fod rhaid inni wneud arbedion anodd, 16% dros y pum mlynedd nesa’, ond fydden ni ddim yn cyflenwi gwasanaeth i’n cynulleidfaoedd ledled Cymru petaem yn tynnu’n ôl o’r ardaloedd hynny sy’n rhan mor greiddiol o’n cyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus ni.”