Mae trefnwyr Llyfr y Flwyddyn 2012 wedi cyhoeddi pa lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg wedi cyrraedd y brig ac maen nhw’n ffitio i dri chategori gwahanol – tair cyfrol o farddoniaeth, tair cyfrol ffuglen a thair cyfrol ffeithiol greadigol.
Dywedodd Jason Walford Davies, Cadeirydd y panel beirniaid Cymraeg, fod y llyfrau yn “tystio’n groyw i amrywiaeth iach o leisiau, dulliau, safbwyntiau a gweledigaethau llenyddol” a bod y goreuon yn cael eu nodweddu “gan y gallu i synnu, syfrdanu a herio disgwyliadau”.
Bydd enwau’r enillwyr terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo sy’n cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ar 12 Gorffennaf.
Bydd enillydd pob un o’r tri chategori yn cael siec am £2,000 ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 yn derbyn siec ychwanegol gwerth £6,000.
Dyma’r rhestr fer:
Barddoniaeth:
Siarad Trwy’i Het gan Karen Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Waliau’n Canu (Gwasg Carreg Gwalch) gan Ifor ap Glyn
Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) gan Gerwyn Williams
Ffuglen:
Neb Ond Ni (Gomer) gan Manon Rhys, enillydd y Fedal Ryddiaith 2011
Y Storïwr (Gomer) gan Jon Gower
Pantglas (y Lolfa) gan Mihangel Morgan
Ffeithiol Greadigol:
Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 (Y Lolfa) gan Alan Llwyd
John Morris-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru) gan Allan James
Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn) gan Glenda Carr
Unwaith eto eleni, Golwg360 fydd yn cynnal pleidlais ‘Gwobr Barn y Bobl’ a gallwch bleidleisio dros eich hoff lyfr o’r rhestr fan hyn.
Rhestr fer Saesneg
Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Saesneg yn y categori Barddoniaeth yw Deep Field (Bloodaxe Books) gan Philip Gross, Catulla Et Al (Bloodaxe Books) gan Tiffany Atkinson a Sparrow Tree (Bloodaxe Books) gan Gwyneth Lewis.
Yn y categori Ffuglen, Wild Abandon (Hamish Hamilton) gan Joe Dunthorne, The Last Hundred Days (Seren) gan Patrick McGuinness ac The Keys of Babylon (Seren) gan Robert Minhinnick.
Y cyfrolau yn y categori Ffeithiol Greadigol yw Ghost Milk (Hamish Hamilton) gan Iain Sinclair, Three Journeys (Gomer) gan Byron Rogers, a The Vagabond’s Breakfast (Gwasg Alcemi) gan Richard Gwyn.