Y Ddraig
Mae’r dyn sydd eisiau adeiladu cerflun anferth o ddraig ger Wrecsam wedi dweud ei fod eisiau dechrau’r gwaith adeiladu cyn dechrau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd y brifwyl ym mis Awst yn cael ei chynnal nid nepell o’r safle y bydd y ddraig yn cael ei adeiladu arno.
Roedd Simon Wingett wedi gobeithio y byddai’r ddraig wedi ei chodi cyn y pafiliwn pinc – ond ar ôl oedi wrth gael caniatâd cynllunio mae o bellach yn gobeithio y bydd y ddraig yn ei lle erbyn Gemau Olympaidd 2012.
“Y nod ydi dechrau ei hadeiladu cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, a’i bod hi’n gyflawn cyn y Gemau Olympaidd yn Lloegr,” meddai wrth Golwg 360.
Cafodd ei gais i adeiladu draig efydd 25 metr o uchder, a fydd yn sefyll ar dŵr 40 metr o uchder ger y Waun, eu derbyn neithiwr.
“Bydd y ddraig yn ddatganiad mawr i Gymru,” meddai. “Bydd hi’n edrych y tu hwnt i Loegr. Mae Cymru eisiau rhagor o hunanreolaeth, ac mae hynny’n beth da.”
Draig werdd
Dywedodd fod y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i’r ddraig neithiwr yn “ryddhad” ar ôl anghytundeb ynglŷn â’i lliw.
Roedd cynghorwyr wedi dweud y dylai’r cerflun fod yn goch, yn hytrach na gwyrdd.
“Ni fyddai draig fawr goch wedi edrych yn iawn ynghanol tirlun gwyrdd,” meddai Simon Wignett.
“Dydi pobl ddim eisiau cerflun llachar ynghanol y tirlun. Roeddwn i eisiau rhywbeth fyddai’n gweddu i’r amgylchedd.
“Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio efydd – mae’n ddewis naturiol.”