Menna Richards
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru wedi dweud ei bod hi’n deall pam fod rhai pobol yn “flin” ynglŷn â’r modd y datgelwyd y newidiadau i’r ffordd y bydd S4C yn cael ei hariannu.

Fis Hydref cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015, ac y bydd y rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn nwylo’r BBC.

Cwynodd S4C a rhai o wleidyddion Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd nad oedden nhw wedi cael gwybod o flaen llaw bod y cyhoeddiad yn dod.

Dywedodd Menna Richards, a fydd yn ymddeol o’i swydd ddiwedd y mis, wrth bapur newydd y Western Mail ei bod hi wedi synnu pan glywodd y byddai’r BBC yn ariannu’r sianel.

“Mae’n rhaid i fi gyfaddef fy mod i wedi cael dipyn o synod pan glywais i am y peth y tro cyntaf,” meddai.

“Fy nghyngor i oedd, os oedd hynny’n mynd i ddigwydd, a bod y Llywodraeth o ddifrif eisiau i’r BBC gymryd y cyfrifoldeb, fod angen gwneud yn siŵr ein bod ni’n diogelu’r sector annibynol,” meddai.

“Y cwestiwn yw, os nad drwy’r BBC, sut arall fyddai S4C yn cael ei ariannu? Ac rydw i’n gobeithio y bydd y trafodaeth rhwng yr Adran Ddiwylliant, S4C a’r BBC yn dod i gytundeb fydd yn darparu’r gwasanaeth orau posib ar gyfer cynulleidfaoedd.”