Mae angen blaenoriaethu ac arloesi’r sector cyfryngau yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw.

Mae adroddiad gan y grŵp gorchwyl a gorffen sy’n canolbwyntio ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, yn argymell creu panel newydd, annibynnol i archwilio bob agwedd ar y sector cyfryngau yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen panel fydd yn rhoi cyngor ar bolisïau cynaliadwy ar gyfer dyfodol y cyfryngau a sefydlu fforwm fyddai’n ystyried materion fel datganoli pwerau dros ddarlledu yng Nghymru, a datblygu modelau busnes cynaliadwy er mwyn cefnogi’r cyfryngau print lleol.

Yn ôl Ken Skates AC, Cadeirydd y grŵp, mae eu gwaith ymchwil yn dangos fod “awydd o hyd am gyfryngau a gwybodaeth yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar Gymru.”

Ond mae’n rhybuddio bod angen ymateb i’r ffaith fod y “ffordd y mae pobol yn cael gafael ar y wybodaeth honno yn esblygu’n gyflym.”

‘Mapio defnydd’

Mae’r grŵp hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad a fyddai’n mapio sut mae pobol yng Nghymru yn defnyddio’r cyfryngau.

Y gobaith yw y gallai hyn eu helpu i gydlynu datblygiadau ar draws sawl sector ledled Cymru, gan gynnwys y cyfryngau a thechnolegau newydd.

“Er nad yw dyfodol y diwydiant cyfryngau yng Nghymru wedi’i fapio’n glir, yr hyn sy’n sicr yw bod angen i sector cyfryngau cynaliadwy nid yn unig oroesi, ond ffynnu a pharhau i ddwyn sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfrif,” meddai Ken Skates

Mae argymhellion eraill yn ymwneud â rhoi rôl i’r Cynulliad wrth fonitro faint o sylw mae BBC Cymru yn ei roi i wleidyddiaeth, yn enwedig yn sgil toriadau yng nghyllideb y Gorfforaeth yn ddiweddar.

Mae’r grŵp hefyd yn nodi’r angen i fonitro cyllid S4C yn agos.

Un arall o blith y 23 argymhelliad yn yr adroddiad yw’r cyfeiriad at bwysigrwydd gorsafoedd radio cymunedol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gefnogi gwasanaethau radio cymunedol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lle mae’n bosib iddyn nhw annog arloesi yn y cyfryngau yng Nghymru, ac i feithrin modelau busnes newydd, gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau addysg uwch.