Wayne David Jackson
Mae dyn o Gasnewydd, oedd wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes ar yr un noson ym mis Tachwedd y llynedd, wedi cael ei garcharu am gyfnod amhenodol.

Roedd y barnwr wedi disgrifio Wayne David Jackson, 23, fel  “troseddwr peryglus” a oedd yn “risg sylweddol” i ddiogelwch y cyhoedd.

Roedd Jackson wedi ymosod ar y ddwy ddynes mewn tanlwybr yng ngorsaf drenau Casnewydd nos Sadwrn, 19 Tachwedd, 2011. Fe ymosododd ar ddynes 28 oed oedd yn cerdded adref ar ôl noson allan gyda’i ffrindiau. Fe lwyddodd hi i ddianc cyn i Jackson ei threisio.

Awr yn ddiweddarach fe ymosododd ar ddynes arall 31 oed oedd yn trio cael tacsi nôl adre. Fe gynigiodd Jackson roi lifft iddi ond yn lle mynd at ei gar, fe aeth â hi i’r tanlwybr a’i threisio, cyn dwyn ei ffôn symudol.

Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) a Heddlu Gwent cafodd Jackson ei arestio ar 21 Tachwedd.

Cafodd Jackson ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o dreisio, ymosod yn rhywiol a lladrata.

Cafodd ei roi ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes a’i wahardd rhag gweithio gydag unrhyw un o dan 16 oed.