Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth ar ôl dod o hyd i gorff dyn ifanc ar y rheilffordd ger gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai esbonio’r farwolaeth i gysylltu â nhw.

Dyw’r dyn heb ei adnabod yn ffurfiol eto, ond y gred yw ei fod yn 23 oed ac o Benarth.

Daethpwyd o hyd i’w gorff tua 40 llath y tu allan i’r orsaf am 8.21am neithiwr.

“Dyw’r farwolaeth heb ei hesbonio ar hyn o bryd ac rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn ail-greu’r oriau a’r munudau cyn marwolaeth y dyn, a darganfod sut a pam yr oedd ar y cledrau,” meddai’r Prif Arolygydd Sandra England.

“Rydw i’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr orsaf rhwng 8am bore ddydd Sadwrn a allai fod wedi gweld y dyn, neu a allai ddarparu unrhyw wybodaeth arall allai ein helpu ni â’r ymchwiliad.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.