Prifysgol Casnewydd
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd.
Roedd Dr Peter Noyes wedi gwrthwynebu cynlluniau i uno’r brifysgol â Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Dywedodd y byddai yn well ganddo weld prifysgol newydd yn cael ei chreu na gorfod uno prifysgolion oedd eisoes yn bodoli.
Dywedodd ei fod yn gadael am resymau personol. Fe fydd yn camu o’r neilltu ym mis Gorffennaf ar ôl 16 mlynedd yn y brifysgol, chwech o’r rheini’r Is-Ganghellor.
“Mae’n flin iawn gen i adael sefydliad a swydd yr ydw i’n eu caru ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i fy nheulu,” meddau.
“Dyma’r penderfyniad cywir i mi ond hefyd i Gasnewydd. Mae’r sefydliad yma angen rhywun sy’n gallu rhoi eu sylw llawn i’w ddyfodol.
“Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio yma â staff a disgyblion Casnewydd. Rydw i wedi dysgu llawer ac wedi mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn.”