Mae cau traffordd yn dilyn damwain farwol yn achosi trafferthion i gefnogwyr pêl-droed sy’n teithio i rownd derfynol Cwpan FA heddiw.
Dylai cefnogwyr Lerpwl sy’n teithio i’r gêm yn erbyn Chelsea osgoi traffordd yr M40 yn dilyn gwrthdrawiad car yno’r bore ma.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 5am y bore ma pan adawodd tacsi oedd yn cario chwech o bobol y draffordd wrth deithio tua’r gogledd rhwng cyffyrdd wyth a naw.
Fe fu farw un o’r teithwyr yn y fan a’r lle ac aethpwyd a’r gweddill i Ysbyty John Radcliffe, Rhydychen. Mae anafiadau un ohonyn nhw’n peryglu ei fywyd.
Mae disgwyl y bydd y ffordd ar gau am oriau eto wrth i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.
Dylai cefnogwyr Lerpwl sy’n teithio i’r gêm ddefnyddio’r M1.