Nathan Dyer
Fe fydd Abertawe yn teithio i Fanceinion ddydd Sul i herio Manchester United o flaen camerâu Sky.
Bydd miloedd yn gwylio oherwydd bod Man U yn cystadlu am goron yr Uwch Gynghrair gyda’u cymdogion Manchester City.
Ac mi fydd tymor y Swans yn dod i ben gyda gêm fawr arall gartref yn erbyn Lerpwl.
Er bod lle’r clwb yn yr Uwch Gynghrair yn ddiogel, mae eu hymosodwr Nathan Dyer yn addo na fydd y padls i fyny ar gyfer y ddwy gêm olaf.
“Rydym ni wedi cyflawni tipyn y tymor hwn, ond fydd yna ddim llaesu dwylo…rydym eisiau mynd i Old Trafford ddydd Sul a chwarae’n dda a chwarae ein steil ni o bêl-droed yn erbyn un o dimau gorau Ewrop.”