Er iddo chwarae rhan amlwg ym muddugoliaeth Lerpwl dros Everton yn y rownd gynderfynol, mae un o gyn-chwaraewyr y Sgowsars yn dweud mai’r fainc yw ei le ar gyfer y ffeinal yn erbyn Chelsea yfory.
“Mi wnaeth o wahaniaeth mawr pan ddaeth i’r cae yn y semi, ac mi fedra i ddeall pam bod pobol yn galw am ddewis Craig i ddechrau’r gêm,” meddai Jan Molby, cyn-reolwr Abertawe, yn ei golofn yn y Liverpool Echo.
“Mae’n chwaraewr sydd yn ei elfen yn y gemau mawr, gyda phrofiad a chyflymdra sy’n anesmwytho’i wrthwynebwyr.
“Ond mi fydda’n well gen i ei weld yn dod oddi ar y fainc.”