Matthew Stevens
Er iddo golli’r bedair ffrâm gynta’ yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd, mae’r Cymro Matthew Stevens wedi gwneud yn dda i ddod yn ôl o fewn dwy ffrâm i’w wrthwynebydd yn ystod y sesiwn gyntaf o chwarae.
Ronnie O’Sullivan yw’r ffefryn i gyrraedd y ffeinal, ond mae Stevens yn rhoi gêm iddo.
Tra bo Ronnie’r Rhoced O’Sullivan wedi cipio’r tlws deirgwaith o’r blaen, nid yw’r Cymro Stevens wedi bod mor bell â hyn yn y bencampwriaeth ers 2005. Mae wedi cyrraedd dwy ffeinal ond eto i gipio’r goron.
Mae safon y chwarae wedi bod yn anwastad hyd yma yn yr ornest.