Luton 2–0 Wrecsam

Cafodd Wrecsam ddechrau gwael i rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Gyngres ar Ffordd Kenilworth nos Iau. Mae gan y Dreigiau fynydd i’w ddringo os am godi o Uwch Gynghrair y Blue Square wedi i Luton ennill y cymal cyntaf o 2-0.

Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi 22 munud diolch i gôl Andre Gray cyn i Stuart Fleetwood ddyblu’r fantais wedi hanner awr o chwarae.

Cafwyd gwaith da gan Fleetwood ar y dde ar gyfer y gôl gyntaf a daeth o hyd i Gray yn y canol cyn iddo yntau daro taran o ergyd heibio i Joslain Mayebi.

Mae’n debyg bod cefnogwyr Wrecsam wedi cael llond bol o’r enw ‘Fleetwood’ y tymor hwn ond roedd gan y Cymro yn nhîm Luton ragor i’w ddweud yn nhymor y Dreigiau wedi 30 munud. Gray a oedd yn gyfrifol am y gwaith creu y tro hwn a rhwydodd Fleetwood gyda chymorth y postyn.

Y chwaraewr reolwr, Andy Morrell a gafodd gyfle gorau’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond llwyddodd gôl-geidwad Luton, Mark Tyler, i arbed ei gynnig.

Er i Wrecsam wella wedi’r egwyl roeddynt yn lwcus i adel de Lloegr dim ond ddwy gôl ar ei hôl hi. Bu rhaid i Mayebi wneud arbediad da i atal Gray rhag sgorio’i ail ef a thrydedd ei dîm a dylai Robbie Willmott fod wedi sgorio hefyd.

Dipyn o dasg yn wynebu’r Dreigiau yn yr ail gymal brynhawn Llun felly ond gyda dim ond dwy gôl ynddi mae gan Wrecsam lygedyn o obaith o hyd, yn enwedig ar y Cae Ras.