Collison - Seren West Ham
Caerdydd 0-2 West Ham

Sgoriodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jack Collison, ddwywaith wrth i West Ham drechu Caerdydd yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Tawelwyd torf Stadiwm Dinas Caerdydd gyda gôl gyntaf Collison wedi dim ond naw munud ac ychwanegodd y chwaraewr canol cae ail yr ymwelwyr bedwar munud cyn yr egwyl.

Caerdydd a ddechreuodd orau wrth i Peter Wittingham a Kenny Miller ddod yn agos yn y munudau agoriadol. Tarodd ergyd Wittingham yn erbyn y traws cyn i Rob Green arbed ergyd Miller.

Ond y tîm o Lundain a aeth ar y blaen pan ddaeth croesiad Ricardo Vaz Te o hyd i Collison yn y canol ac er i David Marshall arbed yr ergyd wreiddiol llwyddodd Collison i benio’r bêl i gefn y rhwyd ar yr ail gynnig.

Dyblwyd y fantais wedi 41 munud yn dilyn methiant Caerdydd i glirio’r bêl yn ddigon pell o gic gornel. Tarodd Collison foli o ochr y cwrt cosbi a gwyrodd oddi ar ben Liam Lawrance ac i gefn y rhwyd.

Bu bron i Mark Hudson sgorio gyda pheniad o gic gornel Wittingham wedi naw munud o’r ail hanner ond roedd Carlton Cole yn y lle iawn ar yr amser iawn i glirio oddi ar y llinell.

Yn y pen arall dylai Kevin Nolan fod wedi sgorio trydedd y Saeson ond peniodd dros y trawst pan ddylai fod wedi gwneud yn well.

Rhoddodd hynny lygedyn o obaith i Gaerdydd o hyd felly wrth i’r cymal cyntaf orffen yn 2-0 i West Ham.

Mae’r ail gymal ym Mharc Upton brynhawn Llun a bydd angen dipyn o berfformiad ar yr Adar Gleision i’w gwneud hi i’r rownd derfynol.