Mae cricedwr Pacistan Mohammad Asif wedi cael ei rhyddhau o’r carchar ar ôl cael ei ddedfrydu i 12 mis oherwydd ei ran mewn twyllo yn ystod y gemau prawf yn erbyn Lloegr.

Cafodd Asif, sy’n 29 oed, ei ryddhau o garchar Caergaint yng Nghaint y bore yma, yn ôl ei gyfreithwyr.

Yr oedd yn un o dri o gricedwyr Pacistan a gafodd eu dedfrydu yn Llys y Goron Southwark ym mis Tachwedd.

Cafodd y cyn-gapten 27 oed, Salman Butt ei garcharu am ddwy flynedd a hanner am ei rôl o fowlio peli annilys yn y gêm prawf yn erbyn Lloegr yn 2010.

Cafodd Mohammad Amir, 19 oed, ei ryddhau ym mis Chwefror ar ôl treulio chwe mis o’i ddedfryd yng ngharchar Portland yn Dorset.

Cafodd Mazhar Majeed, 36 oed, sef asiant chwaraeon yn Llundain oedd wrth wraidd y sgandal, ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd ac wyth mis.

Cafodd yr asiant o Croydon, de Llundain, ei ffilmio yn gyfrinachol yn derbyn £150,000 o arian parod gan newyddiadurwr fel rhan o drefniant i dwyllo yn y gemau.

Roedd Majeed wedi addo i ohebydd y byddai Asif ac Amir yn bowlio 3 o beli annilys ar adegau penodol yn ystod y gêm prawf yn erbyn Lloegr ym mis Awst 26-29 yn 2010.

Honnodd ei fod wedi twyllo ers dwy flynedd a hanner bellach, ac roedd saith chwaraewr o Bacistan wedi bod yn gweithio iddo.

Dywedodd y barnwr Mr Usts Cook nad oedd yna unrhyw dystiolaeth bod Asif wedi cymryd rhan mewn unrhyw dwyll cyn y gêm prawf rhwng Lloegr a Pacistan.

Methodd Amir a Butt mewn ymgais i leihau eu dedfrydau yn y Llys Apêl ym mis Tachwedd.