Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi heddiw mai Phil Davies sydd wedi cael ei bendodi yn Gyfarwyddwr Rygbi ar y tîm.
Ers 2010 mae wedi bod yn hyfforddi blaenwyr Caerwrangon yn uwchgynghrair yr Aviva yn Lloegr. Treuliodd ddeg mlynedd yn hyfforddi Leeds Tykes cyn iddo ddychwelyd i Barc y Strade yn 2006 i hyfforddi’r Sgarlets.
Treuliodd yrfa hir yn chwaraewr gyda Llanelli ond dwy flynedd gymysg a gafodd yno fel hyfforddwr – cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Ewrop yn 2007, ac yna diweddodd y rhanbarth ei gytundeb yn 2008.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision Richard Holland fod Phil Davies yn “hyfforddwr uchel iawn ei barch” a’i fod wedi dangos yn ei gyfnod gyda Leeds ei fod yn gallu datblygu tîm ifanc a chael llwyddiant.
Chwarae rygbi deniadol
Dywedodd Phil Davies mai bwriad y Gleision yn y tymor hir yw datblygu tîm cystadleuol iawn, ennill tlysau a chynhyrchu chwaraewyr i gynrychioli Cymru. Yn y broses hoffai weld y tîm yn “chwarae rygbi deniadol.”
“Byddwn ni’n ceisio chwarae yn y ffordd mae chwaraewyr Cymru yn hoff o wneud – yn reddfol, gyda digon o geisiau gobeithio.
“Bydd hyn yn ddechreuad ffres i grŵp ifanc o chwaraewyr gyda Chyfarwyddwr Rygbi newydd sydd â llawer o brofiad ac a fydd yn gweithio’n galed drostyn nhw a gyda nhw.”