Andy Morrell
Heno fe fydd Wrecsam yn herio Luton yn y cymal gyntaf o’r gemau ail gyfle yn Uwch gynghrair y Blue Square.
Gyda 17 o bwyntiau yn gwahanu’r ddau dîm yn y tabl, mae rhai’n rhagweld y bydd yn dasg hynod o anodd i Luton guro Wrecsam.
Mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell wedi datgan ei siom bod yn rhaid iddynt chwarae Luton heno.
Mae’n teimlo y dylai Wrecsam fod wedi cael dyrchafiad yn barod. Collodd Wrecsam i Luton yn y gemau ail gyfle’r llynedd.
‘‘Y bwriad yw mynd i lawr yno i berfformio’n dda, ac os gallwn ddod oddi yno gyda phwyntiau, bydd hynny’n wych,’’ meddai Morrell.
Yn ôl yr amddiffynnwr Stephen Wright, mae’n rhaid i Wrecsam roi popeth i mewn i’r gêm heno.
‘‘Mae’n gêm fawr ar gyfer y clwb ac yn gyfle i ddychwelyd i’r Gynghrair pêl-droed. Yn bennaf, dyna beth mae’r bechgyn eisiau ei wneud,’’ dywedodd Wright.
Dim ond yr ymosodwr Rob Ogleby sydd wedi cael ei adael allan yn barod heno. Fe fydd Andy Morrell yn rhoi profion ffitrwydd hwyr i Jake Speight a Glen Little.