Derwyddon Cefn – Y Seintiau Newydd

Bydd Derwyddon Cefn, y tîm o Gynghrair Undebol Huws Gray, yn gobeithio achosi sioc enfawr yn rownd derfynol Cwpan Cymru brynhawn Sadwrn. Ond pencampwyr yr Uwch Gynghrair, Y Seintiau Newydd, yw’r ffefrynnau clir i gipio’r gwpan ar gae Nantporth, Bangor.

Mae’n anodd gweld Y Seintiau yn baglu yn erbyn tîm a orffennodd y tymor yng nghanol tabl prif gynghrair y gogledd ond i ddefnyddio’r hen ystrydeb -gall unrhyw beth ddigwydd yn y cwpan.

Mae’r Derwyddon wedi profi hynny ar ei ffordd i’r rownd derfynol trwy guro tri thîm o’r Uwch Gynghrair yn barod.

Gorymdaith y Derwyddon

Dechreuodd eu taith gyda dwy fuddugoliaeth gyfforddus, y naill o 6-1 yn erbyn Caernarfon a’r llall o 8-0 yn erbyn y gelynion lleol, Coedpoeth. Dilynwyd hynny gyda buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn pencampwyr y Gynghrair Undebol, Cei Conna a’r tair buddugoliaeth yn erbyn y timau mawr.

2-0 oedd y sgôr oddi cartref ym Mhrestatyn ac 1-0 yn Aberystwyth cyn iddynt roi cweir i Airbus yn y rownd gynderfynol o 4-1. Does dim dwywaith fod y Derwyddon yn haeddu eu lle yn y rownd derfynol felly ond does dim dwywaith ychwaith fod dipyn o dasg yn eu hwynebu yno gan fod y Seintiau wedi edrych yn dda iawn ar eu ffordd i’r ffeinal hefyd.

Pererindod y Seintiau

Doedd dim rhaid i’r tîm llawn amser o Groesoswallt ymuno yn y gystadleuaeth tan y drydedd rownd a gwnaethant eu ffordd i’r chwarteri yn ddigon di lol gyda buddugoliaethau cartref cyfforddus yn erbyn Bryntirion a Chasnewydd.

Cawsant gêm anodd yn erbyn Castell Nedd yn yr wyth olaf cyn rhoi cweir i’r Bala yn y rownd gynderfynol. Eu perfformiad yn hanner cyntaf y gêm honno oedd un o rai gorau’r tymor ac os all tîm Craig Harrison ail adrodd hynny brynhawn Sadwrn mae’n anodd gweld y Derwyddon yn rhwystro’r Seintiau rhag ychwanegu’r cwpan at y gynghrair y maent eisoes wedi ei hennill.

Roedd y ddau dîm yma yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn yr Uwch Gynghrair ddau dymor yn unig yn ôl ac yn wir gêm gyfartal ddi sgôr oedd y canlyniad diwethaf rhyngddynt yn 2010. Ond mae’r bwlch rhwng y ddau dîm wedi tyfu’n sylweddol ers hynny.

Y Rheolwyr

Wedi dweud hynny, un peth sydd yn gyffredin rhwng y ddau glwb yw eu rheolwyr uchelgeisiol. Mae Craig Harrison wedi cael dechrau gwych i’w gyfnod gyda’r Seintiau ers symud o Airbus ar ddechrau’r flwyddyn ac mae ef yn gobeithio mynd yn bell yn y gêm.

Ond mae’r dyn wrth y llyw gyda’r Derwyddon, Huw Griffiths, hefyd yn rheolwr sydd â phrofiad o reoli ar lefel uwch na’r Gynghrair Undebol. Mae ganddo drwydded broffesiynol UEFA ac mae wedi gweithio gyda’r Trallwng yn Uwch Gynghrair Cymru yn ogystal ag ambell swydd is-reolwr ym mhyramid Lloegr.

Un peth sy’n sicr, fe fydd rhaid i dactegau Griffiths ac ymdrech y Derwyddon fod ar eu gorau os am unrhyw obaith o drechu’r Seintiau. Bydd angen dogn helaeth o lwc a rhamant y cwpan arnynt hefyd achos fe fydd y Seintiau yn awyddus iawn i gipio’r cwpan gan nad ydynt wedi gwneud hynny ers 2005. Dyw’r Derwyddon ar y llaw arall heb godi’r gwpan ers dros gan mlynedd!

Mae Sgorio yn dechrau am 13:30 gyda’r gic gyntaf o Nantporth am 14:00.