Leanne Wood
Cafodd Plaid Cymru noson siomedig yng Nghaerffili neithiwr, gan golli rheolaeth ar gyngor a fu dan eu rheolaeth nhw ers 2008.
Collodd y Blaid 12 sedd i Lafur yn ystod y nos, gan gynnwys:
– Sedd Arweinydd y cyngor, Allan Pritchard, ym Mhenmaen.
– Sedd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, ym Medwas Trethomas a Machen.
– Cyn-ganolwr tîm rygbi Cymru Roger Bidgood yn Sant James.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Bevan, sydd wedi bod yn gynghorydd Plaid Cymru ers 37 mlynedd, fod dwy ffactor bwysig yn y canlyniad neithiwr.
“Mae’r Ceidwadwyr mewn grym yn Llundain, ac mae Llafur yn gwneud yn dda bryd hynny, tra bod ni’n gwneud yn dda pan mae Llafur mewn grym yn Llundain.
“Y ffactor arall yw bod Leanne Wood wedi gwrthod cwrdd â’r Frenhines. Rwy’n parchu ei safbwynt hi ond mae’r mwyafrif o bobol yn cefnogi’r Teulu Brenhinol, a gaethon ni ymateb gwael ar garreg y drws o achos hyn.
“Roedd Leanne wedi bod yn naïf. Dw i’n cofio’r un ymateb gwael pan oedd Dafydd Elis-Thomas wedi penderfynu cefnogi Bobby Sands [aelod o’r IRA a fu farw ar ôl ymprydio].
“Mae’r canlyniadau yn siomedig iawn achos ry’n ni wedi gweithio’n galed yng Nghaerffili ac wedi penderfynu sefydlu ysgol gyfun Gymraeg yn y dre, ac mae cynlluniau honno wedi mynd yn rhy bell i’r Blaid Lafur allu tynnu nôl nawr.”
“Gonestrwydd” Leanne i’w ganmol
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod “pobol yn parchu arweinydd sydd yn cadw at egwyddorion.”
“Ar adeg pan fo ffydd mewn gwleidyddion yn arbennig o isel, mae pobl yn parchu gonestrwydd.
“Mae barn Leanne ar y frenhiniaeth yn hysbys ac yr ydym ni’n meddwl y bydd pobl yn parchu ei barn, cytuno neu beidio â hi ar y pwynt penodol hwn.
Bu llawer o bynciau trafod yn yr etholiad hwn, ond doedd y frenhiniaeth ddim yn un ohonynt.”
Y sefyllfa ar Gyngor Caerffili ar hyn o bryd yw:
Annibynnol 2
Plaid Cymru 20
Llafur 49
Ond, mae canlyniadau dwy sedd eto i’w cyhoeddi, wrth i’r swyddogion baratoi at ail-gyfri y prynhawn yma.