Mae un o bob tri gyrrwr yn torri nôl ar siwrneiau o achos y cynnydd ym mhrisiau petrol.
Yn ôl ymchwil gan gymdeithas foduro’r RAC mae 29% o fodurwyr wedi cwtogi ar nifer y siwrneiau hir maen nhw’n eu cymryd yn y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda’r penwythnos gŵyl banc yn nesáu, mae 30% arall wedi dweud y byddan nhw’n gorfod torri nôl ar ymweliadau teulu o achos y gost.
Mae prisiau petrol wedi cynyddu 48% ers 2009, ac ar gyfartaledd mae petrol yn costio 141c y litr yng ngwledydd Prydain, ac yn uwch na hynny mewn sawl ardal yng Nghymru.
Mae disel yn ddrutach ac ar gyfartaledd yn costio dros 147c y litr. Mae llenwi tanc car 55 litr gyda disel yn costio dros £80.
Yn ddiweddar dywedodd cymdeithas foduro’r AA fod nifer o deuluoedd yn gwario mwy ar betrol nag ar fwyd.