Llys Ynadon Caerdydd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio pensiynwr yng Nghaerdydd.

Roedd William Stephen Jones, 31, gerbron ynadon yng Nghaerdydd y bore ’ma ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio Peter Lewis .

Cafwyd hyd i Peter Lewis, 68, yng nghyntedd ei fflat yn y Rhath yn gynnar fore Sadwrn. Roedd wedi cael ei drywanu yn ei stumog.

Cadarnhaodd William Stephen Jones, o Heol Gold, Adamsdown ei enw, ei oed a’i gyfeiriad a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad yn Llys y Goron Caerdydd wythnos nesaf, ar 8 Mai.

Teulu’n diolch i’r gymuned

Yn y cyfamser mae teulu Peter Lewis wedi diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u caredigrwydd ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod staff yn archfarchnad Sainsbury’s ym Mhenylan, lle bu’r pensiynwr yn arfer siopa, yn casglu arian er cof amdano.

Fe fydd yr arian yn cael ei roi i dair elusen o ddewis y teulu.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth am y llofruddiaeth. Y rhifau i’w ffonio yw  02920 571530 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.