Ched Evans
Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn arall  ar ôl i enw dynes gafodd ei threisio gan beldroediwr gael ei gyhoeddi ar y we.

Mae 13 person bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r achos o enwi’r ferch, gafodd ei threisio gan Ched Evans.

Cafodd dyn o’r Rhyl ei arestio heddiw ar amheuaeth o ‘gyfathrebu maleisus’, meddai Heddlu Gogledd Cymruac mae’n cael ei holi yn swyddfa’r heddlu yn Llanelwy.

Mae naw person eisoes wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau, ar ôl cael eu holi ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus dan Adran 5 o’r Deddf Troseddau Rhyw (Diwygiad).

Cafodd tri dyn o ardal Sheffield eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ymosodwr Sheffield United a Chymru ei garcharu am bum mlynedd yn Llys y Goron Caernarfon ar 20 Ebrill am dreisio dynes 19 oed mewn ystafell westy ger Y Rhyl.

Roedd Ched Evans yn gwadu’r cyhuddiad, ac mae’n bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.

Yn dilyn y ddedfryd, mae’n ymddangos bod y ddioddefwraig wedi cael ei henwi a’i beirniadu ar wefannau cymdeithasol fel Twitter.

Mae gan ddioddefwyr troseddau fel treisio a cham-drin rhywiol eraill hawl gyfreithiol i aros yn ddienw am oes.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi disgrifio’r sylwadau honedig fel rhai “hynod annifyr” a’u bod wedi cyfrannu at “drawma parhaol” y ddynes.

Dywedodd y Sarjant Bob Halford, sy’n arwain yr ymchwiliad, fod disgwyl i ragor o bobol gael eu harestio yn sgil yr ymchwiliad.