Golwg 360 sy’n cymryd golwg ar rai o’r cynghorau lleol sy’n werth eu gwylio ar 3 Mai. Heddiw, mae Rhidian Jones yn edrych ar y sefyllfa yng Nghaerdydd…
Mae’r frwydr i gipio grym ar Gyngor Caerdydd yn debygol o fod yn un o’r brwydrau poethaf o blith cynghorau Cymru ddydd Iau. Mae gan bob un o’r pedair prif blaid siawns o reoli mewn rhyw fodd neu’i gilydd, a does dim prinder cynnen rhyngddyn nhw chwaith.
Dyma sefyllfa seddau’r Cyngor ar hyn o bryd:
Democratiaid Rhyddfrydol 34
Ceidwadwyr 15
Llafur 13 (Ymddiswyddodd un cynghorydd Llafur ym mis Mawrth)
Plaid Cymru 6
Annibynnol 6
Felly, mae cyfanswm o 75 sedd ar gael, ac mae angen 38 sedd i gael mwyafrif.
Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dda iawn yn yr etholiadau yn 2008 ac sy’n arwain Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth chwe chynghorydd Plaid Cymru.
Llafur yn gobeithio elwa
Ond mae’r ffigurau yn debygol o newid yn sylweddol erbyn dydd Gwener. Er bod ffactorau lleol yn ninas Caerdydd, nid yw’r glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn mynd i fod o fudd i’r Dems Rhydd. Mae Llafur yn gobeithio elwa o’r anniddigrwydd gyda’r Llywodraeth yn San Steffan ac mae Carwyn Jones wedi ceisio rhoi cyd-destun Prydeinig i’r etholiadau trwy annog etholwyr Cymru i “anfon neges at David Cameron.”
Mae arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, a dirprwy arweinydd y Cyngor, Neil McEvoy yn dweud bod “twf aruthrol” yng nghefnogaeth y Blaid yng Nghaerdydd, sydd wedi arwain at seddi i’r blaid yn Y Tyllgoed a Glanyrafon. Mae etholiad arweinyddol Plaid Cymru wedi rhoi llawer o sylw i’r blaid ac nid ydyn ni’n gwybod eto sut bydd etholwyr yn ymateb i ethol Leanne Wood yn arweinydd arni.
Rodney Berman o’r Dems Rhydd sy’n arwain Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd, tra bod Neil McEvoy yn ddirprwy arweinydd ar y cyd gyda Judith Woodman o’r Dems Rhydd.
Clymbleidiau?
Ond mae cymaint o gynnen rhwng y pleidiau fel ei bod hi’n anodd gweld o ble daw clymbleidiau.
Mae’n debygol iawn mai Llafur fydd y blaid gryfaf ar y cyngor erbyn dydd Gwener, ac mae YouGov wedi cyhoeddi pol piniwn yr wythnos hon sy’n awgrymu gall Llafur gael bron i 50% o’r pleidleisiau yng Nghymru. Ond mae’n annhebygol y bydd Llafur yn gallu cipio 25 sedd arall er mwyn ffurfio mwyafrif ar Gyngor Caerdydd ac felly bydd rhaid iddyn nhw glymbleidio er mwyn arwain.
Ond dyma lle mae’r gynnen yn codi’i phen.
Ni fydd Llafur am glymbleidio gyda Phlaid Cymru gan fod gwrthdaro wedi bod rhwng y ddwy blaid dros nifer o faterion, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Ac mae personoliaethau hefyd i gyfri, ac ni fydd y cyn-gynghorydd Llafur, Neil McEvoy, yn ei chael hi’n rhwydd i gydweithio gyda’i hen blaid, ac ni fydd pobol megis Russell Goodway am fod mewn partneriaeth gyda Phlaid Cymru.
Gall Llafur glymbleidio gyda’r aelodau annibynnol ond efallai na fydd digon ohonyn nhw i ffurfio clymblaid gref.
Mae’n debygol mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fydd yr allwedd i redeg Cyngor Caerdydd. Mae clymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bosib, yn dibynnu faint o flas cas fydd yn weddill ar ôl brwydr etholiadol glòs. Mae’r Dems Rhydd a’r Ceidwadwyr wedi gwadu hyd yn hyn bod unrhyw fwriad ganddyn nhw i glymbleidio, a brawddeg gyson Rodney Berman yw eu bod nhw wedi gwrthod clymbleidio â nhw yn 2004 a 2008, ac nad oes bwriad gwneud hynny y tro yma.
Mae clymblaid y Dems Rhydd a Phlaid Cymru yn siwr o ddod i ben. Mae’n edrych yn debyg na fydd gan y ddwy blaid gyda’i gilydd ddigon o gynghorwyr i arwain ar ôl dydd Iau, oni bai bod modd denu’r aelodau Annibynnol atyn nhw i greu rhyw fath o glymblaid enfys.
Beth bynnag y canlyniad, mae cipio grym yn y brifddinas yn wobr fawr i unrhyw blaid.
Bydd rhaid disgwyl tan oriau mân fore Gwener felly i ni gael gweld a fydd un enillydd clir yng Nghaerdydd, neu a fydd yr ymgyrchu ar strydoedd y ddinas yn diweddu gyda thrafodaethau clymbleidio tu ôl i ddrysau caeëdig.
Am restr llawn o’r ymgeiswyr yng Nghaerdydd, cliciwch yma.