Mae’r llofrudd David Cook wedi cael ei garcharu am oes heddiw am yr ail dro ar ôl iddo lofruddio ei gymydog.

Fe glywodd David Cook, 65, na fydd yn cael ei ryddhau o’r carchar eto.

Ddoe, cafwyd Cook yn euog o guro ei gymydog Leonard Hill, 64, a’i dagu i farwolaeth cyn dwyn arian o’i dŷ yn y Rhymni ar 13 Mehefin y llynedd.

Roedd ei lofruddiaeth yn debyg iawn i’r modd y cafodd  athrawes ysgol Sul, Beryl Maynard, ei llofruddio gan Cook ym 1987. Cafodd ei garcharu am oes bryd hynny.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw cafodd ei garcharu am oes unwaith eto. Dywedodd yr ustus farnwr Griffith Williams na fyddai unrhyw gais i’w ryddhau yn y dyfodol yn cael ei ystyried oherwydd difrifoldeb y drosedd.

“Fe fyddwch yn treulio gweddill eich oes yn y carchar,” meddai.

Daw sylwadau’r barnwr heddiw wrth i gwestiynau gael eu gofyn pam fod Cook wedi ei ryddhau yn y lle cyntaf.

Cafodd Cook ei ryddhau o’r carchar ar drwydded yn 2009 ar ôl treulio 21 mlynedd dan glo, a symudodd i fyngalo drws nesaf i Leonard Hill ddeg wythnos cyn y llofruddiaeth.

Mae teulu Leonard Hill wedi dweud bod ffaeleddau yn y gwasanaeth prawf wedi arwain at y llofruddiaeth.