Gareth Williams
Mae’n ymddangos fod y crwner sy’n ymchwilio i ddirgelwch marwolaeth ysbïwr MI6, Gareth Williams, wedi diystyru rheithfarn o ladd anghyfreithlon.
Bydd Dr Fiona Wilcox yn rhoi rheithfarn naratif i’w farwolaeth amser cinio, a hynny’n dod i ben a saith niwrnod o wrando ar dystiolaeth.
Mae bargyfreithiwr teulu’r dyn 31 oed o Fôn, Anthony O’Toole, wedi gofyn i’r crwner ddod i’r casgliad ei bod hi’n “fwy tebygol na pheidio, fod llofruddiaeth anghyfreithlon wedi digwydd yn yr achos hwn.”
Ond wedi gwrando ar y cyflwyniadau cyfreithiol, dywedodd Dr Fiona Wilcox mai dyfarniad agored neu naratif oedd yr unig opsiynau ar gael iddi.
Ond ychwanegodd na fyddai “dyfarniad agored yn gwneud cyfiawnder â’r canfyddiadau cadarnhaol yr ydw i’n gallu eu gwneud.”
Mae disgwyl i deulu’r athrylith fathemategol o Ynys Môn gyrraedd Llys y Crwner San Steffan yn barod ar gyfer clywed penderfyniad Dr Fiona Wilcox.