Ched Evans
Mae naw o bobl gafodd eu harestio gan Heddlu’r Gogledd ddoe, fel rhan o’u hymchwiliad i achosion o drydar enw merch gafodd ei threisio, wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.
Mae’r pum dyn a phedair dynes o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cael eu rhyddhau tan fis Gorffennaf. Wythnos ddiwethaf cafodd tri dyn o ardal Sheffield eu harestio a’u rhyddhau ar fechniaeth.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru y bydd eu hymchwiliad yn parhau ac mae disgwyl iddyn nhw arestio rhagor o bobl.
Mae’r ymchwiliad yn ymwneud â chyhoeddi enw’r ferch, gafodd ei threisio gan y peldroediwr Sheffield United a Chymru, Ched Evans, yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon ar ddechrau mis Ebrill.
Cafodd ei garcharu am bum mlynedd am dreisio’r ferch, oedd yn 19 oed ar y pryd, mewn gwesty ger Y Rhyl.