Ched Evans
Mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb arlein i dynnu enw peldroediwr oddi ar restr diwedd tymor i anrhydeddu chwaraewyr, ar ôl ei gael yn euog o dreisio merch 19 oed.

Cafodd Ched Evans, 23 oed, ei garcharu am bum mlynedd yn gynharach y mis hwn am ymosod ar y ferch mewn gwesty ger Y Rhyl. Roedd ei enw wedi ei gynnwys ar restr tim y flwyddyn Cymdeithas Beldroedwyr Proffesiynol (PFA).

Roedd yr athro ysgol Leo Hardt wedi dechrau’r ymgyrch yn dilyn dedfryd Evans, gan honni bod ei gynnwys ar y rhestr yn “rhoi neges bryderus.”

Mae’r ddeiseb wedi denu mwy na 5,000 o enwau.

Dywedodd Leo Hardt ei fod yn bryderus gan fod cymaint o bobl ifainc yn gweld peldroedwyr fel arwyr. Mae’n annog y PFA i dynnu enw Ched Evans oddi ar y rhestr ar unwaith gan ddweud bod dewis ganddyn nhw o lawer mwy o beldroedwyr sydd yn fwy teilwng, yn hytrach nag un sydd wedi ei gael yn euog o dreisio.

Yr wythnos ddiwethaf roedd Gordon Taylor, prif weithredwr y PFA wedi amddiffyn y penderfyniad i gynnwys enw Ched Evans, sy’n chwarae i Sheffield United a Chymru, ar y rhestr.

Cafodd Evans ei gynnwys yn y tim am fod aelodau eisoes wedi pleidleisio.

Dywedodd Gordon Taylor nad oedd y PFA “mewn unrhyw ffordd yn esgusodi’r drosedd.”

Mae Ched Evans eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.