Ryan Giggs
Mae dau glwb mawr Manceinion yn cwrdd heno mewn gêm dyngedfennol yn uwchgynghrair Lloegr.

Mae Manchester City a Manchester United ymhell ar y blaen ar frig yr uwchgynghrair a’r enillwyr heno fydd buddugwyr tebygol y gynghrair gydag ond dwy gêm yn weddill  ar ôl heno.

Mae gelyniaeth y ddau glwb o Fanceinion wedi poethi dros y blynyddoedd diwethaf ac mae City’n gobeithio ennill teitl y gynghrair am y tro cyntaf ers 1968.

Os yw United yn ennill bydd y Cymro Ryan Giggs yn ymestyn ei record fel y chwaraewr sydd wedi ennill y gynghrair y nifer fwyaf o weithiau. Ar hyn o bryd mae wedi ennill y gynghrair 12 o weithiau.