Bydd 1.4 miliwn o docynnau i’r gemau pêl-droed yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain yn mynd ar werth yfory.
Mi fyddan nhw’n mynd ar werth o 11.00 y bore ymlaen.
Bydd tocynnau ar gael ar gyfer pob gêm, ar wahân i bump, sef y gêm rhwng tîm dynion Prydain ac Uruguay yn Stadiwm y Mileniwm, rowndiau gogynderfynol a gynderfynol y dynion yn Wembley, a rowndiau terfynol y dynion a’r merched yn Wembley.
Mae trefnwyr Llundain 2012 yn dweud eu bod nhw’n ffyddiog y bydd y system gwerthu tocynnau yn gweithio’n iawn y tro hwn, ac mi fyddan nhw’n medru gwerthu hyd at 250,000 o docynnau mewn awr.
Meddai Trefnydd Masnachol y Gemau yn Llundain, Chris Townsend, “Mae hyn yn gyfle gwych i bobl ar draws y Deyrnas Unedig i fod yn rhan o’r Gemau, ac i weld gemau gwych am bris gwych.”
Bydd wyth o gemau yn cael eu cynnal i gyd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, yn cynnwys gêm tîm dynion Prydain yn erbyn Uruguay ar Awst y 1af, a gêm agoriadol tîm merched Prydain yn erbyn Seland Newydd ar Orffennaf y 25ain.
yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain yn mynd ar werth yfory.