Ryan Day
Mae’r Cymro Ryan Day yn parhau i chwarae’n dda ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield.

Mae wedi llwyddo i gyrraedd y rownd gogynderfynol trwy guro Cao Yupeng o Tsieina 13-7.

Yn y rownd gogynderfynol bydd Day yn chwarae naill ai Cymro arall, Matthew Stevens neu Barry Hawkins o Loegr.

Mae Mark Williams hefyd yn parhau i fod yn y frwydr – er ar hyn o bryd mae ei wrthwynebydd Ronnie O’Sullivan ar y blaen o 5 ffrâm i 3.