Lido Afan 1–1 Y Drenewydd (Lido yn ennill wedi C.O.S.)

Lido Afan yw pencampwyr Cwpan y Cynghrair wedi iddynt drechu’r Drenewydd ar Goedlan y Parc, Aberystwyth o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y Drenewydd gôl hwyr i orfodi amser ychwanegol ond wedi hanner awr di sgôr fe gadwodd Lido eu penau i ennill yr ornest giciau o’r smotyn yn erbyn tîm ifanc y Drenewydd.

Hanner Cyntaf

Lido Afan a gafodd y gorau o’r chwarter awr agoriadol ond hynny heb fygwth llawer o flaen y gôl. Yn wir, i’r Drenewydd ac i Nick Rushton y daeth y cyfle cyntaf wedi 16 munud ond gwyrodd ei gynnig ef oddi ar amddiffynnwr a fodfeddi heibio’r postyn.

Gorfododd Rushton arbediad gan gôl-geidwad Lido, Craig Morris, bum munud yn ddiweddarach ond yna Lido a orffennodd yr hanner orau.

Bu rhaid i Nick Thomas yn y gôl i’r Drenewydd fod yn effro i arbed ergyd bwerus Mark Jones wedi 25 munud ond allai’r golwr wneud dim i atal y blaenwr rhag sgorio’r gôl agoriadol wedi 42 munud.

Creodd Daniel Thomas y cyfle gyda rhediad gwych a phas gywir a chymerodd Jones y cyfle ar y cynnig cyntaf. Dim gobaith i Thomas a’r tîm o’r de ar y blaen ar yr egwyl.

Ail Hanner

Y Drenewydd oedd y tîm gorau wedi’r egwyl ond hanner digon distaw a gafodd Morris yn y gôl i Lido serch hynny.

Cafodd yr eilydd, Steve Blenkinsop, gyfle da â’i ben wedi 55 munud ond gwnaeth yr amddiffynnwr canol, Carl Evans, yn dda i’w hatal.

Daeth Matthew Cook yn agos gydag ergyd dri munud yn ddiweddarach ac roedd Rushton yn parhau i fygwth hefyd. Creodd y blaenwr ifanc sydd ar fenthyg o Wrecsam gyfle iddo’i hun gyda rhediad da wedi 65 munud ond ergydiodd yn wyllt dros y trawst.

Yn y pen arall, gwnaeth Jamie Price yn dda i benio cic gornel oddi ar y llinell i gadw ei dîm yn y gêm gydag ychydig dros ddeg munud i fynd.

Lido oedd yn gorffen y gêm orau a bu bron i’r eilydd, Alex Rickett, sicrhau’r fuddugoliaeth bum munud o’r diwedd. Daeth y cyfle iddo yn dilyn symudiad gorau’r gêm gan Lido ond llwyddodd un o amddiffynnwyr y Drenewydd i glirio’i ergyd oddi ar y llinell.

Ac roedd drama hwyr i ddilyn wrth i Rushton sgorio ddau funud wedi’r naw deg i unioni’r sgôr a gorfodi amser ychwanegol. Cafodd ergyd wreiddiol Shane Sutton ei atal gan amddiffynnwr ond rhwydodd Rushton gydag ergyd bwerus trwy goesau Craig Morris o 18 llath.

Amser Ychwanegol

Daeth cyfle gorau hanner cyntaf yr amser ychwanegol i Lido Afan ac i Carl Payne wedi wyth munud. Rheolodd y chwaraewr canol cae ei ergyd o 18 llath yn gelfydd ond roedd yn adlamu oddi ar y trawst a wnaeth hi.

Roedd y Drenewydd yn well wedi’r egwyl a chafodd Rhuston gyfle euraidd i’w hennill hi ddeg munud o’r diwedd. Roedd ei gyffyrddiad cyntaf i reoli’r bêl a throi yn un da ond roedd ei ergyd yn un wyllt.

Daeth cyfle arall i’r blaenwr ifanc chwe munud yn ddiweddarach ond er iddo lwyddo i godi’r bêl dros y gôl-geidwad fe gododd hi dros y trawst hefyd. Daeth Callum Wright yn agos hefyd yn y munud olaf ond dros y trawst a aeth ei ergyd ef hefyd a dim amdani felly ond ciciau o’r smotyn.

Ciciau o’r Smotyn

Gôl-geidwad Lido Afan, Craig Morris, oedd arwr y ciciau o’r smotyn gyda thri arbediad. Cafodd Kieran Mills-Evans, Nick Rushton a Shane Sutton i gyd eu hatal gan Morris ac ei i Carl Payne a Craig Hanford fethu i Lido fe wnaethant ddigon i ennill.

Leaon Jeanne, Liam Thomas ac Andy Hill oedd y sgoriwyr i dîm Andy Dyer wrth iddynt ennill y gêm yn haeddianol yn y diwedd.

A dyna’n union oedd barn Dyer ar y diwedd:

“Fe gawsom ni gwpl o gyfleoedd i’w hennill hi yn y 90 munud ond roedd hi’n rownd derfynol wych. Fe allen nhw fod wedi ennill yn yr amser ychwanegol hefyd ac mae hi’n ffordd afiach iddyn nhw golli yn y diwedd ond rydym ni’n bencampwyr haeddianol.”