Abertawe 4–4 Wolves

Cafwyd gwledd o goliau ar Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn ond bydd Abertawe’n siomedig iawn mai dim ond gêm gyfartal a gawsant ar ôl bod ar y blaen o 3-0 wedi chwarter awr o’r gêm. Roedd y tri phwynt yn edrych yn ddiogel i’r tîm o Gymru ond brwydrodd Wolves yn ôl gan gipio pwynt yn yr ail hanner.

Cafwyd awgrym o’r hyn a oedd i ddod yng ngweddill yr hanner wedi dim ond 22 eiliad pan sgoriodd Andrea Orlandi y gôl agoriadol. Daeth Scott Sinclair o hyd iddo yn y cwrt cosbi a pheniodd yntau heibio i gyn gôl-geidwad yr Elyrch, Dorus De Vries, rhwng y pyst i Wolves.

Roedd hi’n ddwy wedi dim ond pedwar munud diolch i Joe Allen. Derbyniodd y bêl gan Gylfi Sigurdsson ar ochr y cwrt cosbi cyn ergydio’n gywir heibio i De Vries.

Ac roedd rhai o gefnogwyr yr ymwelwyr yn dechrau gadael wedi dim ond chwarter awr wedi i Nathan Dyer ei gwneud hi’n dair, Orlandi yn creu y tro hwn a Dyer yn penio i gefn y rhwyd.

Ond os oedd cefnogwyr Wolves wedi rhoi’r ffidl yn y to, nid felly’r chwaraewyr achos roeddynt yn ôl yn y gêm wedi 28 munud diolch i gôl Steven Fletcher. Peniodd yr Albanwr y bêl heibio i Michel Vorm yn dilyn croesiad ei gyd flaenwr, Kevin Doyle.

Tri munud yn unig a barodd yr adfywiad serch hynny wrth i Danny Graham adfer y tair gôl o fantais toc wedi hanner awr o chwarae. Dyer oedd yn gyfrifol am y gwaith creu y tro hwn a phrif sgoriwr yr Elyrch yn rhwydo.

Roedd y bwlch yn ôl i ddwy drachefn ddau funud yn ddiweddarach wedi i Matthew Jarvis rwydo ail yr ymwelwyr a honno oedd gôl olaf hanner cyntaf hynod gyffrous.

Roedd Brendan Rodgers yn arbrofi gyda thri amddiffynnwr canol yn y cefn i Abertawe am y tro cyntaf ac roedd hi’n dechrau ymddangos nad oedd yr arbrawf yn llwyddiant wedi i Wolves sgorio ddwywaith yn hanner cyntaf yr ail hanner i unioni’r sgôr.

Sgoriodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, David Edwards, wedi 54 munud i gau’r bwlch i un gôl cyn i Jarvis sgorio ei ail ef a phedwerydd ei dîm i’w gwneud hi’n 4-4 wedi 69 munud.

Ail hanner hynod siomedig i’r Elyrch felly wrth iddi orffen yn gyfartal ar y Liberty. Wedi dweud hynny, mae’r pwynt yn ddigon i sicrhau eu bod yn swyddogol ddiogel yn yr Uwch Gynghrair. Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y deuddegfed safle.