Barrow 3–1 Casnewydd

Cafodd Casnewydd ddiweddglo siomedig i’w tymor yn Uwch Gynghrair y Blue Square wrth golli yn erbyn Barrow ar Stryd Holker brynhawn Sadwrn. Er bod tîm Justin Edinburgh yn ddiogel cyn y gic gyntaf nid dyma’r paratoadau gorau ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA i Gasnewydd.

Rhoddodd Andy Cook y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond saith munud wedi i Jack MacKreth ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Ond roedd Casnewydd yn gyfartal wedi chwarter awr diolch i Ismail Yakubu. Croesodd Andrew Hughes y bêl i ganol y cwrt chwech a pheniodd Yakubu heibio i Danny Hurst yn y gôl i Barrow.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Barrow yn ôl ar y blaen wedi dim ond pum munud o’r ail gyfnod a gôl dda oedd hi hefyd. Ergydiodd Richie Baker o  20 llath gan guro Glyn Thompson yn isel i’w dde.

A sicrhaodd Adam Boyes y tri phwynt gyda thrydedd Barrow wedi 69 munud gydag ergyd arall o bellter wedi i Cook ddod o hyd iddo ar ochr y cwrt cosbi.

Mae Casnewydd yn gorffen y tymor yn y pedwerydd safle ar bymtheg ond byddant yn troi eu golygon at y gêm fawr yn Wembley yn awr.