Pogba - Sgoriwr y drydedd (Llun o wefan y clwb)

Wrecsam 5–1 Braintree

Cafodd Wrecsam y paratoadau perffaith ar gyfer gemau ail gyfle’r Gyngres gyda buddugoliaeth gyfforddus yng ngêm olaf y tymor arferol. Braintree oedd yr ymwelwyr i’r Cae Ras brynhawn Sadwrn a sgoriodd y Dreigiau bum gôl wrth roi gwledd i’r cefnogwyr cartref.

Roedd y Dreigiau ar y blaen wedi 19 munud diolch i’w chwaraewr reolwr, Andy Morrell. Gwnaeth Jay Harris yn dda ar ochr y cwrt cosbi cyn dod o hyd i Stephen Wright ar yr asgell. Croesodd yntau i’r canol ac er i Mathias Pogba fethu’r bêl roedd Morrell wrth law i guro Nathan McDonald yn y gôl i’r ymwelwyr.

Roedd hi’n ddwy dri munud cyn yr egwyl ac roedd Harris yn ei chanol hi eto. Y chwaraewr canol cae oedd yn rheoli popeth a daeth o hyd i Adrian Cieslewicz mewn digonedd o le a sgoriodd yntau ei ail gôl mewn wythnos gydag ergyd isel gywir.

Roedd Wrecsam yn edrych yn ddigon cyfforddus ar yr egwyl felly ond yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf yn yr ail hanner. Ceisiodd Billy Gibson ei lwc gydag ymdrech din dros ben yn y cwrt cosbi ac er nad aeth honno i mewn roedd Ben Wright wrth law i benio’r bêl i gefn y rhwyd wrth y postyn pellaf.

Adferodd Pogba ddwy gôl o fantais gyda gôl daclus toc cyn yr awr. Cyfunodd Pogba a Morrell yn dda cyn i Pogba ergydio’n gywir o bellter i’r gornel isaf. 3-1 felly a’r tri phwynt yn ddiogel i’r Dreigiau.

Ond roedd mwy i ddod wrth i Danny Wright a Neil Ashton ychwanegu dwy gôl hwyr.

Daeth gôl yr eilydd, Wright, ddau funud cyn y diwedd wedi i Dean Keates ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi. Yna, sgoriodd Ashton o’r smotyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau wedi Keates gael ei lorio yn y cwrt cosbi.

5-1 y sgôr terfynol felly Wrecsam yn gorffen y tymor yn ail yn Uwch Gynghrair y Blue Square. Luton sydd yn eu haros yn y rownd gynderfynol nos Iau a bydd y Dreigiau’n awyddus i ddial wedi i Luton eu curo yng ngemau ail gyfle’r tymor diwethaf.