Crystal Palace 1–2 Caerdydd
Sgoriodd Peter Wittingham a Don Cowie ar ddechrau’r ail hanner wrth i Gaerdydd sicrhau eu lle yn gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Crystal Palace ar Barc Selhurst brynhawn Sadwrn.
Doedd pethau ddim yn edrych yn addawol iawn i’r Adar Gleision ar hanner amser wedi i Wilfried Zaha roi’r tîm cartref ar y blaen. Ond sgoriodd y Cymry ddwywaith yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth a lle yn y gemau ail gyfle.
Cafodd Joe Mason a Liam Lawrance gyfleoedd cynnar i Gaerdydd ond roedd gôl-geidwad Cymru a Chrystal Palace, Lewis Price, yn ddigon effro i’w harbed.
Wnaeth y tîm cartref ddim cynnig llawer o flaen gôl ond roeddynt ar y blaen wedi 13 munud serch hynny. Gwnaeth Zaha waith da yn ei hanner ei hun cyn ei rhoi i Darren Ambrose ar yr asgell dde. Parhaodd Zaha â’i rediad ac roedd yn rhy gyflym i Ben Turner yng nghanol amddiffyn Caerdydd, a derbyniodd bas Ambrose cyn curo David Marshall yn y gôl.
Caerdydd oedd y tîm gorau wedi hynny a Mason oedd y prif fygythiad. Ond yr amddiffynnwr canol, Mark Hudson, a gafodd gyfle gorau’r hanner bum munud cyn yr egwyl. Daeth croesiad Lawrance o hyd iddo yn y cwrt cosbi ond llwyddodd Price i arbed y peniad gwan.
Newyddion drwg i Gaerdydd ar yr egwyl felly ond roedd pethau yn edrych dipyn gwell toc wedi awr o chwarae.
Unionodd Peter Wittingham y sgôr wedi 53 munud gyda chic rydd o ongl dynn. Roedd pawb yn disgwyl croesiad ond crymanodd Wittingham ergyd droed chwith heibio i bawb ac i gefn y rhwyd.
Ac roedd y Cymry ar y blaen wedi 62 munud diolch i gôl wych Don Cowie. Llwyddodd Hudson i benio tafliad hir Aron Gunnarsson ymlaen i gyfeiriad Cowie yng nghanol y cwrt cosbi a tharodd yntau foli berffaith heibio Price ac i gefn y rhwyd.
Caerdydd a gafodd y gorau o’r meddiant yn yr hanner awr olaf hefyd ond doedd dim mwy o goliau i fod.
Mae’r fuddugoliaeth yn hen ddigon i sicrhau bod Caerdydd yn gorffen yn y safleoedd ail gyfle ond mae buddugoliaethau i Blackpool, Birmingham a West Ham hefyd yn golygu na fyddant yn gorffen yn uwch na’r chweched safle.
West Ham fydd eu gwrthwynebwyr dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol felly gyda Birmingham neu Blackpool yn aros mewn rownd derfynol bosib.