Rhys Thomas
Mae prop y Scarlets Rhys Thomas wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor hwn am resymau meddygol, ar ôl dioddef trawiad ar y galon ym mis Ionawr eleni tra’n ymarfer ym Mharc y Scarlets.
Wedi gwella’n dda o’i lawdriniaeth, mae Thomas yn dweud ei fod yn dal yn awyddus i fod yn rhan o fyd rygbi yn y dyfodol.
Mae’r chwaraewr 29 oed wedi bod yn rhan o garfan y Scarlets ers 2009 ac wedi chwarae 52 o gemau, gydag 17 o ymddangosiadau y tymor hwn yn ogystal â thirio pedair cais yn 2011/12.
Fe ymunodd â’r rhanbarth o orllewin Cymru ar ôl chwarae i Gasnewydd a Dreigiau Casnewydd rhwng 2003 a 2009. Ennillodd saith gap dros Gymru a bu’n rhan o’r Gamp Lawn yn 2008.
‘‘Ar hyn o bryd rwy’n treulio fy amser gyda’m teulu a’n ffrindiau, a hoffwn ddiolch i’m wraig Paula am ei holl gefnogaeth. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel a hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr y Scarlets, fy nghyd-chwaraewyr a gweithwyr a phawb sydd wedi anfon eu dymuniadau gorau ataf,’’ meddai Thomas.
Dywedodd ei bod yn amser trist i roi diwedd ar ei yrfa, a’i bod yn anodd iawn dod i delerau â’r peth, ond mae’r profiad o bron â cholli ei fywyd wedi rhoi persbectif newydd iddo..
‘‘Rydym i gyd wedi cael ein hysgwyd gan yr hyn a ddigwyddodd i Rhys,” meddai hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies.
“Ond mae’n braf i’w weld wedi gwella ac yn hapus erbyn hyn, a byddwn yn parhau i’w gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ac yn dymuno y gorau yn y dyfodol ar gyfer bywyd iach a hapus gyda’i deulu ifanc.”