Malky Mackay
Disgwylir i fwy na 3,000 o gefnogwyr yr Adar Gleision deithio i Barc Selhurst yn y gobaith o weld Caerdydd yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

Mae’r Adar Gleision angen pwynt i ddiogelu eu lle yn y gemau ail-gyfle, ar gyfer esgyn i Uwch Gynghrair Lloegr.

Caerdydd oedd yn fuddugol o ddwy i ddim pan chwaraeon nhw gartref yn erbyn Crystal Palace yn gynharach yn y tymor.

‘‘Mae gennym bopeth i chwarae amdano, does ganddon ni ddim ofn. Mae ganddom ni gred gadarn yn yr hyn yr ydym am ei wneud,’’ meddai rheolwr Caerdydd, Malky Mackay.

Yr unig ffordd gall Caerdydd golli allan o ran y gemau ail-gyfle yw trwy golli i Crystal Palace yfory, ac wedyn bod Middlesbrough yn ennill yn erbyn Watford.

Mae gan Mackay garfan lawn i ddewis ohoni, gyda Don Cowie a Rudy Gestede ar gael i ymddangos ym Mharc Selhurst.

Bydd Gestede mwy na thebyg yn dechrau ar y fainc, ond mae Cowie yn ymddangos yn sicr o ddechrau’r gêm.

Gyda Peter Whittingham, Stephen McPhail ac Aron Gunnarsson yn sicr o gael eu cynnwys, mae’n debyg y bydd Liam Lawrence ar y fainc hefyd.