Yfory fe fydd Abertawe yn croesawu’r unig dîm sy’ eisoes wedi syrthio o’r Uwch Gynghrair, i Stadiwm y Liberty.

Dim ond balchder fydd yn cynnal Wolverhampton Wanderers wrth iddyn nhw wynebu’r Elyrch.

Gall Abertawe orffen yn hanner ucha’r Uwch Gyngrhair os wnawn nhw ennill eu gemau olaf. 

Ond nid yw eu record diweddar yn rhy galonogol, a hwythau wedi ennill dim ond un o’u chwe gêm olaf.

Er bod Walves eisoes i lawr, maen rhaid i’r Elyrch fod ar eu gorau yn ôl eu canolwr rhyngwladol.

‘‘Rydym yn gwybod bod Wolves wedi cwympo i Gyngrhair y Bencampwriaeth, ond rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni ddangos ein holl rinweddau os ydym am ennill,’’ meddai Joe Allen.

Mae rheolwr yr Elyrch Brendan Rodgers wedi arbrofi gyda’i dîm o ystyried bod lle’rr Elyrch yn ddiogel yn yr Uwch Gyngrhair y flwyddyn nesaf. 

Ni fydd Alan Tate yn chwarae oherwydd anaf i’w goes, nac ychwaith Ferrie Bodde sy’n dioddef o anaf i’w ben-glin.