Barry John
Daeth 40,000 o bobl i’r stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd er mwyn gweld tîm Barry John yn chwarae yn erbyn tîm Carwyn James mewn gêm gyfeillgar i godi arian i Urdd Gobaith Cymru yn 1972.
Ar y pryd doedd neb yn gwybod mai dyma fyddai ei gêm rygbi ola’.
Swyddog cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd oedd Wynne Melville Jones,a dywedodd fod yr achlysur yn gyfle “i ddangos fod yr Urdd yn fwy na dim ond Eisteddfod.
“Roedd hi’n llwyddiant ysgubol. Y bwriad oedd cynnal y gêm ym Mharc yr Arfau ond ar ôl gwerthu dros 10,000 o docynnau, fe ofynnon ni i’r undeb a allwn ni ddefnyddio’r stadiwm oedd yn cael ei adeiladu’r drws nesaf.
“Roedd hi’n gêm nodedig gan fod y cyfan yn Gymraeg – y rhaglenni, y tocynnau, y cyhoeddiadau. Roedd y chwaraewyr yn barod iawn i fod yn rhan o’r achlysur, hyd yn oed y rheiny o Loegr ac Iwerddon oedd yn nhîm Carwyn James.”
Roedd rygbi’n amatur ar y pryd felly nid oedd angen talu ffioedd i’r chwaraewyr byd enwog.
“Fe dalon ni gostau teithio’r chwaraewyr,” meddai Wynne Melville Jones. “Gwnaeth y gêm elw o £15,000 i’r Urdd, oedd yn swm mawr iawn bryd hynny.”
Y Brenin John
Flwyddyn ynghynt roedd Barry John wedi serennu yng ngharfan Llewod Carwyn James yn Seland Newydd. Cystal oedd cicio Barry John yn y prawf cyntaf dros y Llewod fel na ddewiswyd cefnwr profiadol Seland Newydd, Fergie McCormick, i chwarae fyth eto yn y crys du, a’r Llewod a enillodd y gyfres.
Yn Seland Newydd derbyniodd Barry John y glasenw ‘Y Brenin’, ond nid oedd yn gyfforddus â’r enwogrwydd a ddaeth yn sgil ei allu ar y cae ac ymddeolodd yn dilyn gêm yr Urdd, ac yntau’n ddim ond 27 oed.
Fel Shane Williams yn fwy diweddar, sgoriodd Barry John gais ar ddiwedd ei gêm olaf, ond ychydig oedd yn gwybod bryd hynny mai’r ymddangosiad hwnnw yng nghrys yr Urdd fyddai ei gêm rygbi olaf.
Gêm rygbi arall gan yr Urdd?
Dywedodd Wynne Melville Jones y byddai chwaraewyr heddiw o bosib yn fwy parod na rhai 1972 i roi eu hamser dros yr Urdd
“Mae llawer o’r chwaraewyr ifanc heddiw wedi eu magu yn yr Urdd ac yn siarad Cymraeg,” meddai.
“Mae ein tîm cenedlaethol ni’n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd a byddai’n adeg da i’r Urdd gynnal gêm rygbi fawr arall.”